GyT Cynulliad Rhanbarth y Gogledd – LWA Cymru North Wales Regional Assembly. Click here to let us know you’re coming.
[ENGLISH BELOW]
Ymunwch â ni mewn digwyddiad gaeafol fel rhan o gynulliadau rhanbarthol Gweithwyr y Tir. Rydym yn croesawu pawb sy’n malio am ddyfodol ein systemau bwyd a ffermio yng Nghymru, boed aelodau neu beidio. Dyma ddiwrnod i ddod ynghyd, i rannu syniadau a helpu i adeiladu’r mudiad agroecoleg yng Nghymru.
Rydym yn dal i fod wrthi’n trefnu’r rhaglen o weithdai a sgyrsiau a byddem yn croesawu cynigion gan unrhyw un all ddysgu sgil neu hwyluso trafodaeth sy’n debygol o fod yn ddefnyddiol ac yn ddiddorol i’r sawl sy’n mynychu. Mae pynciau posib yn cynnwys: Cyllid ac ariannu torfol ar gyfer ffermydd bychain; offer a thechnegau i dyfwyr llysiau; sefydlu becws bach.
Hoffem i holl aelodau a chefnogwyr Gweithwyr y Tir allu mynychu ac os yw costau teithio yn rhwystr, cysylltwch â ni gan fod gennym rywfaint o gefnogaeth ar gael. Os ydych yn teithio gyda thrafnidiaeth gyhoeddus i Fangor neu Gaernarfon, mae’n debyg y bydd modd i ni drefnu eich casglu; cysylltwch â ni trwy info@tyddynteg.com os felly.
Nid oes modd i ni ddarparu cyfleusterau creche ffurfiol, ond mae’n bosib y bydd modd i ni gynnig rhywfaint o help gyda gofal plant yn ystod y dydd. Cysylltwch â ni trwy info@tyddynteg.com os ydych eisiau trafod hyn.
Rhaglen
10.00 Cyrraedd a lluniaeth ysgafn
10.30 Croeso a Chyflwyniadau
11.45 Taith fferm Tyddyn Teg
13.15 Cinio
14.00 Gweithgareddau Gweithwyr y Tir Cymru a sut i ymuno
15.15 Gweithdai a thrafodaethau
17.30 Diwedd y rhaglen ffurfiol
18.00 Swper Cyfrannu a Rhannu gyda Chyfeillion Tyddyn Teg
19.00 DJs
***************************************************************************
Join us for a winter gathering as part of the Landworkers’ Alliance regional assemblies. We welcome members and non-members who care about the future of our food and farming systems in Wales. A day to get together, share ideas and help to build the agroecology movement in Wales.
We are still arranging the programme of workshops and discussions and would welcome offers from anyone who can teach a skill or facilitate a conversation likely to be useful and interesting to attendees. Potential topics include: Finance and crowdfunding for small farms; tools and techniques for vegetable growers; setting up a small bakery.
We would like all LWA members and supporters to be able to attend and if cost of travel is a barrier please do get in touch as we have some support available. If you are travelling by public transport to Bangor or Caernarfon, we can probably arrange a pick-up; please contact us at info@tyddynteg.com if so.
We are not able to provide formal creche facilities, but may be able to offer some help with childcare during the day. Please contact us at info@tyddynteg.com if you want to discuss this.
Programme
10.00 Arrival and refreshments
10.30 Welcome and Introductions
11.45 Tyddyn Teg farm tour
13.15 Lunch
14.00 LWA Cymru’s activities and how to get involved
15.15 Workshops & Discussions
17.30 Close of Formal programme
18.00 Bring and Share Dinner with Friends of Tyddyn Teg
19.00 DJs
Tyddyn Berth Bethel Caernarfon LL55 3PS, Wales/Cymru