GRWPIAU FFERMWR I FFERMWR
Mae grwpiau ffermwr i ffermwr yn creu cyfleoedd ar gyfer cyfnewid rhwng cymheiriaid ar gost isel. Mae nifer o grwpiau wedi eu sefydlu gan aelodau Cynghrair Gweithwyr y Tir yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ac rydym yn gweithio i ddatblygu rhagor ohonynt.
Gan amlaf, bydd grwpiau yn ymgynnull ar ddechrau’r flwyddyn er mwyn penderfynu pwy fydd yn cynnal sesiynau a pha bynciau fydd yn derbyn sylw ganddynt. Mae’r grwpiau wedyn yn cyfarfod yn fisol ar ffermydd aelodau i archwilio’r pynciau, rhannu profiadau ac edrych ar enghreifftiau ymarferol.
Mae grwpiau ffermwr i ffermwr yn syml i’w trefnu ac nid oes costau sylweddol ynghlwm â’u gweithrediad. Maent yn arf effeithiol ar gyfer rhannu profiadau a gyrru arloesedd a chydweithio.