FARMHACK
Mae FarmHack yn fforwm i ffermwyr a thyfwyr sy’n datblygu arfau priodol i amaethwyr agro-ecolegol ar raddfa fechan rannu eu syniadau a’u sgiliau. Mae digwyddiadau FarmHack yn dwyn ffermwyr, tyfwyr, gwneuthurwyr, peirianwyr a rhaglennwyr TG ynghyd i arddangos a rhannu offer, sgiliau a syniadau.
Mae FarmHack yn gweithredu yn ôl egwyddorion technoleg ffynhonnell agored, sy’n golygu fod offer a thechnegau hefyd yn cael eu rhannu a’u datblygu ar fforwm rhyngwladol ar-lein farmhack.net.
Gweler y calendr ar gyfer digwyddiadau FarmHack sydd ar y gorwel.