Ein nod yw cefnogi aelodau i wella eu mentrau a goresgyn rhwystrau sy'n eu hwynebu, yn ogystal â chynorthwyo ffermwyr, tyfwyr a gweithwyr ar y tir i symud eu cynhyrchiad i systemau agroecolegol a'u mentrau i werthiannau uniongyrchol neu fodelau cadwyn gyflenwi fer.
Canllawiau gwerthu’n uniongyrchol a chadwyni cyflenwi byr
Mae’n destun cyffro i ni lansio tair dogfen fel rhan o’n gwaith parhaus i gynorthwyo cynhyrchwyr wrth iddynt sefydlu neu drosglwyddo at werthiant uniongyrchol a chadwyni cyflenwi byr. Rhannwch yr adnoddau hyn ag eraill, a rhowch wybod i ni beth yw eich barn o ran sut i’w gwella ymhellach.
Dros y misoedd sydd o’n blaenau, ein bwriad yw datblygu adnoddau pellach sy’n mynd i fwy o fanylder ar bob un o’r modelau hyn, gan gynnwys arweiniad gan gynhyrchwyr sy’n defnyddio’r modelau ar fanylion eu gweithrediadau, a Chynlluniau Rheoli Diogelwch Bwyd a gweithdrefnau HACCP enghreifftiol. Os oes diddordeb gennych mewn rhannu gwybodaeth am eich menter i gefnogi’r gwaith hwn, cysylltwch ag tony.little@staging.landworkersalliance.org.uk
Adnoddau Hyfforddi
Rydym yn cynnig rhywfaint o hyfforddiant a mentora, ac adnoddau ar gyfer sefydlu safleoedd FarmStart. Gallwch ddod o hyd i fanylion am hyn yn yr adran hyfforddiant.Mae aelodau hefyd yn rhedeg grwpiau ffermwr i ffermwr mewn sawl rhan o’r wlad, ac rydym yn argymell i chi ddefnyddio’r fforwm ar y wefan hon i rannu cwestiynau y gallai eraill eich helpu i’w hateb.
Cymorth i Aelodau
Currently we do not have capacity or resources to help individual members or potential members with specific projects, or offer bespoke advice. We get a lot of requests like this and would love to have the time to respond to each and support everybody. We are fundraising for a new role for somebody to focus on membership support and services as we have identified it is a gap in our offering so please watch this space.
But please take the time to explore our staff page here to see if your enquiry fits into a specific staff members’ role and email them directly.
However, If you need critical and urgent support please email info@staging.landworkersalliance.org.uk including URGENT in the subject header and it will get picked up and we can try our best to help.